Psalms 65

Addoliad a diolch

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân.

1Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw;
a chyflawni'n haddewidion i ti.
2Ti sy'n gwrando gweddïau,
boed i bob person byw ddod atat ti!
3Pan mae'n holl bechodau yn ein llethu ni,
rwyt ti'n maddau'r gwrthryfel i gyd.
4Y fath fendith sydd i'r rhai rwyt ti'n eu dewis,
a'u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.
Llenwa ni â bendithion dy dŷ,
sef dy deml sanctaidd!
5Ti'n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau'n iawn,
a'n hateb O Dduw, ein hachubwr.
Mae pobl drwy'r byd i gyd,
ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti.
6Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle;
Rwyt ti mor gryf!
7Ti sy'n tawelu'r môr stormus,
a'i donnau gwyllt,
a'r holl bobloedd sy'n codi terfysg.
8Mae pobl ym mhen draw'r byd
wedi eu syfrdanu gan dy weithredoedd.
O'r dwyrain i'r gorllewin
maen nhw'n gweiddi'n llawen.
9Ti'n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio
a'i gwneud yn hynod ffrwythlon.
Mae'r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr!
Ti'n rhoi ŷd i bobl
drwy baratoi'r tir fel yma.
10Ti'n socian y cwysi
ac mae dŵr yn llifo i'r rhychau.
Ti'n mwydo'r tir â chawodydd,
ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu.
11Dy ddaioni di sy'n coroni'r flwyddyn!
Mae dy lwybrau'n diferu digonedd!
12Mae hyd yn oed porfa'r anialwch yn diferu,
a'r bryniau wedi eu gwisgo â llawenydd!
13Mae'r caeau wedi eu gorchuddio gyda defaid a geifr,
a'r dyffrynnoedd yn gwisgo mantell o ŷd.
Maen nhw'n gweiddi ac yn canu'n llawen.
Copyright information for CYM